Oriel Ynys Môn

Telephone
01248 724444

Ymweld â'r wefan

Fel Amgueddfa, Oriel Gelf a lleoliad ar gyfer digwqyddiadau pwrpasol mae gan Oriel Mon cymaint yw gynnig.

Mae taith i Oriel Môn, amgueddfa ac oriel fwyaf gogledd Cymru, yn ddiwrnod allan rhagorol i’r teulu oll. Yma, gall ymwelwyr brofi’r hyn sydd gan Ynys Môn i’w gynnig drwy amrywiaeth o arddangosfeydd, gweithgareddau a digwyddiadau cyffrous, i gyd am ddim.

Mae’r Oriel yn gartref i ‘Oriel Kyffin Williams’, galeri sydd wedi’i neilltuo ar gyfer artist mwyaf amlwg Cymru. Mae’r amgueddfa a’r Oriel hefyd yn cynnwys ‘Oriel Charles Tunnicliffe’. Bydd ymwelwyr o bell ac agos yn tyrru yma i weld gwaith anhygoel yr artist bywyd gwyllt a oedd yn byw ger genau afon Malltraeth.

Mae’r Oriel Gelf Gyfoes yn arddangos ac yn gwerthu gwaith gan artistiaid byw amlwg o bob rhan o Gymru. Mae’r Oriel hefyd yn rhedeg rhaglen o ddigwyddiadau eclectig flynyddol sy’n amrywio o weithdai celf ar gyfer plant ac oedolion i ddosbarthiadau Meistri ar gyfer oedolion o dan arweiniad artistiaid proffesiynol ynghyd â sgyrsiau a darlithoedd arbenigol.

Mae ymweliad â siop anrhegion yr Oriel yn brofiad yn ei hun, yma gall ymwelwyr brynu amrywiaeth eang o gynnyrch o safon gan rai o grefftwyr gorau a mwyaf arloesol Cymru. Yn fwy na hynny, gall y rhai hynny sy’n ymweld â’r Oriel yn y gaeaf fwynhau awyrgylch Nadoligaidd y Ffair Grefftau Nadolig flynyddol, un o’r Ffeiriau Crefft mwyaf i ennill ei phlwyf yng ngogledd Cymru. Yn olaf, mae caffi'r Oriel yn lle y gellir ymlacio er mwyn gallu mwynhau cinio ysgafn neu fyrbryd, mae gan y gegin amrywiaeth o gacennau cartref a phwdinau sy’n cael eu paratoi bob dydd.

Other attractions on Anglesey