Amgueddfa Arforol Caergybi
Stori anhygoel Treftadaeth Arforol Caergybi a Môr Iwerddon.

Ffôn
01407 769745

Ymweld â'r wefan

Traeth Newry
Caergybi
Ynys Môn
LL65 1ES

Maer amgueddfa, sydd wedi ei lleoli yn harddwch traeth Newry, yn brofiad teuluol rhyfeddol. Ewch yn ôl mewn amser yng ngorsaf bad achub hynaf Cymru.

Dysgwch am longddrylliadau, gwaith achub dewr a môr ladron. Darganfyddwch sut brofiad oedd hwylio ar Fôr Iwerddon 100 mlynedd yn ôl. Ymwelwch â’n Lloches Cyrch Awyr o’r 2il Ryfel Byd, a rhyfeddwch at ein casgliad o memorabilia o’r Rhyfel Byd 1af a’r 2il Ryfel Byd. Fe gewch chi hefyd rhoi cynnig ar ganu ein seiren Cyrch Awyr go iawn!
Mae ein Hamgueddfa Achrededig wedi ei lleoli wrth ymyl y llwybr arfordirol, mae mynediad i gadair olwyn, siop llawn anrhegion a llyfrau, tywyswyr amgueddfa llawn gwybodaeth, wifi am ddim a chaffi/bwyty trwyddedig nodedig - yr Harbour Front Bistro.


RYDYM NI NAWR AR AGOR AR GYFER TYMOR 2023 GYDA MYNEDIAD AM DDIM I BOB PLENTYN O DAN 16 Ac IEUENGACH YNG NGHWMNI OEDOLYN.

Opening times

Rydym ni ar agor o’r Pasg hyd at ddiwedd Hydref o ddydd Mawrth i ddydd Sul. 10.00 - 16.00.

Other attractions on Anglesey